Main characteristics
- Location
- South Glamorgan
- Company
- Brook Street
- Salary
- £25383 - £28446/annum
- Employment type
- Contract
- Category
- Administration
Job summary
Swyddog CymorthAmser-llawn - Cytundeb Cyfnod Penodol Chwe Mis
Cyflog: £25,383 - £28,446 y flwyddyn, gyda'r potensial i symud ymlaen i £32,030 y flwyddyn gyda'n cynllun dilyniant cyflog.
Lleoliad: Caerdydd
O dan gontract i'n swyddfa yng Nghaerdydd, ond drwy gyfrwng gwaith hybrid rydyn ni'n cynnig cyfleoedd gwaith hyblyg yn y cartref a'r swyddfa. Bydd adegau pan fydd disgwyl ichi ddod i'r swyddfa i gydweithio â chydweithwyr neu deithio oherwydd anghenion busnes.
Pam gweithio i'r ICO?
Cynllun dilyniant cyflog.
Opsiynau gweithio hybrid a hyblyg.
25 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn, ynghyd â gwyliau braint a gwyliau cyhoeddus.
Gwyliau hyblyg (hyd at 26 diwrnod ychwanegol o wyliau'r flwyddyn).
Pensiwn (cyfraniad cyflogwr tua 26.6%).
Cynllun disgownt ar-lein i arbed arian mewn archfarchnadoedd mawr, manwerthwyr, campfeydd, bwytai, darparwyr yswiriant a llawer mwy.
Cynllun Arian Iechyd.
Cyfleoedd datblygu gwych i ddysgu a symud ymlaen.
Gallwch weld rhagor o fanylion ar yr adran buddion ar ein .
Amdanon ni
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer hawliau gwybodaeth. Mewn byd sy'n cael ei yrru gan ddata, rydyn ni'n darparu cyngor, canllawiau a chymorth i sefydliadau sy'n eu galluogi i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau, yn ogystal ag amddiffyn unigolion a'u data personol.
Fel cyflogwr, rydyn ni'n angerddol yngln â gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau a gyrfaoedd ein pobl, ac rydyn ni'n eich grymuso i fod yn chwilfrydig, yn effeithiol, yn gydweithredol ac yn barchus.
Yngln â'r rôl
Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd sy'n gofyn am gyngor ac arweiniad a darparu ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r tîm lleol gan gynnwys Pennaeth Rhanbarthau'r ICO, y Rheolwr Rhanbarthol a staff eraill yn y swyddfa gyda phwyslais arbennig ar rwymedigaethau'r ICO o dan Fesur y Gymraeg 2011
Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwasanaethau cyngor dwyieithog swyddfa Cymru ac ymateb i ymholiadau cyffredinol gan unigolion, sefydliadau a rhanddeiliaid eraill a'u cyfeirio at fannau eraill os oes angen.
Darparu cyngor a chymorth ar gyd-destun rhanbarthol y ddeddfwriaeth rydyn ni'n ei rheoleiddio i adrannau eraill o'r ICO drwy ddatblygu gwybodaeth fanwl am sut mae'r ddeddfwriaeth yn cael ei chymhwyso.
Darparu cymorth a chefnogaeth mewn perthynas â gweithdrefnau Cymraeg yr ICO ac yn benodol gweinyddu ceisiadau am gyfieithiadau a defnyddio atebion technegol yr ICO i sicrhau bod cynnwys Cymraeg yn cael ei gyhoeddi yn unol â'n rhwymedigaethau cyfreithiol
Helpu aelodau eraill o'r tîm i ddatblygu perthnasoedd â rhanddeiliaid rhanbarthol drwy wneud ymchwil yn ôl yr angen a helpu i lunio a drafftio nodiadau briffio a dogfennau eraill.
Dylanwadu ar randdeiliaid mewn ffordd sy'n gyson ag amcanion cynllun corfforaethol a chynllun busnes yr ICO. Gall hyn gynnwys llenwi'r bwlch weithiau ar ran cydweithwyr mewn cyfarfodydd rheolaidd â rhanddeiliaid a delio â materion rhigolaidd yn eu habsenoldeb.
Helpu i baratoi ar gyfer cyfarfodydd, arddangosfeydd, cyflwyniadau a gweithgareddau hyrwyddo allanol eraill, a chymryd rhan neu gefnogi cydweithwyr yn ôl yr angen.
Datblygu a chynnal systemau lleol ar gyfer gwybodaeth reoli sy'n ymwneud â gweithgareddau'r swyddfa, gan lunio adroddiadau i'w defnyddio o fewn yr ICO.
Darparu cefnogaeth uniongyrchol i Bennaeth Rhanbarthau'r ICO a'r Rheolwr Rhanbarthol yn ôl yr angen, er enghraifft, delio â gohebiaeth gan gynnwys cyfansoddi atebion lle bo hynny'n briodol, trefnu cyfarfodydd, a threfnu teithiau a llety.
Darparu cefnogaeth weinyddol i'r swyddfa, gan gynnwys, er enghraifft, cynnal systemau ffeilio, cadw cofnodion, paratoi agendâu, paratoi nodiadau cyfarfodydd, trefnu cyfieithiadau, llungopïo/ffeilio, delio â'r post sy'n mynd a dod a phrynu cyflenwadau.
Darparu cymorth a chefnogaeth mewn perthynas â gweithdrefnau Cymraeg yr ICO.
Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sydd eu hangen i helpu'r swyddfa i weithredu'n effeithlon.
Amdanoch chi
Profiad sy'n berthnasol i ofynion y rôl, fel y'u disgrifir yn y cyfrifoldebau rôl a'r fanyleb person, a hwnnw wedi'i gronni trwy unrhyw gyfuniad o gymwysterau neu brofiad academaidd neu alwedigaethol.
Sgiliau trefnu effeithiol a'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith ymestynnol a allai gynnwys gofynion cyferbyniol o wahanol ffynonellau;
Sgiliau Cymraeg llafar rhugl, a sgiliau Cymraeg ysgrifenedig da;
Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel aelod o dîm;
Sgiliau rhyngbersonol rhagorol gyda phobl ar bob lefel, gyda'r hyder sydd ei angen i gynrychioli'r ICO yn allanol yn ôl yr angen.
Y gallu i ddefnyddio pecynnau TG swyddfa safonol, gyda phrofiad o feddalwedd cyfieithu gwefannau yn ddymunol
Y gallu i sicrhau bod y safonau uchaf o ran ansawdd a gofal cwsmeriaid yn cael eu cyflawni
Parodrwydd i deithio i bencadlys yr ICO a swyddfeydd rhanbarthol eraill
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Os oes gennych anabledd neu nam a'ch bod yn cael trafferth defnyddio'n system ymgeisio ar-lein, anfonwch neges ebost at y tîm Adnoddau Dynol ar a all drefnu ichi gyflwyno cais drwy ddull arall